Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023
Amser:
09.33 -
11.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13173
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Darren Millar AS (Cadeirydd dros dro) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Dylan Morgan, National Farmers' Union (NFU) Cymru Gareth Parry, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Rhys Evans, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Andrew Tuddenham, Soil Association David Thomson, Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru Andy Richardson, Food and Drink Wales Industry Board |
Staff y Pwyllgor: |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Clerc yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, y Cadeirydd, a dirprwyodd Darren Millar ar ei ran.
1.3 Cafodd Darren Millar ei ethol yn Gadeirydd dros dro gan y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod hwn yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2.3 Llythyr gan Weinidog yr Economi at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
3 Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
4 Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Preifat
6.1 Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod
6.1.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
6.2.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am effaith y Bil ar faterion o fewn ei gylch gwaith.